Maes gwersylla teuluol yw Bolmynydd wedi ei leoli yng nghysgod Mynydd Tir Cwmwd Llanbedrog, mewn ardal o harddwch eithriadol naturiol.
Maes gwersylla teuluol yw Bolmynydd wedi ei leoli yng nghysgod Mynydd Tir Cwmwd Llanbedrog, mewn ardal o harddwch eithriadol naturiol.
Gyda gradd 5 seren gan Croeso Cymru mae dod ar wyliau i Bolmynydd yn ddewis delfrydol ar gyfer gwyliau gwersylla hamddenol perffaith gyda chyfleusterau gwych ac awyrgylch gyfeillgar.
O’r Parc ceir golygfeydd anhygoel o’r arfordir a mynyddoedd Eryri. Mae o fewn cyrraedd i draethau, siop gyda stoc dda, tafarn deuluol a bistro cartrefol.
Lleolir Bolmynydd ar yr heol A499 rhwng Pwllhelli ag Abersoch.
O Bwllheli mae angen gyrru i Lanbedrog ac wedyn dilyn y ffordd i Abersoch. Ar ôl cyrraedd siop Spar yn Llanbedrog ewch ymlaen am hanner milltir tuag at Abersoch. Pan welwch arwydd Bolmynydd ar y chwith rhaid troi yn syth. Dilynwch y ffordd i ben y bryn lle mae Maes Gwersylla Bolmynydd ar y chwith.